Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Sut i Roi Adborth

Sut i Roi Adborth

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr i geisio barn ar y cynigion a nodir yn y CRRC drafft hwn cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau terfynol. Hoffem i chi gymryd rhan a dweud eich dweud. Darllenwch ein dogfen ymgynghori llawn yma.


Mae sawl ffordd y gallwch wneud hyn. Y brif ffordd yw trwy arolwg ar-lein, y gallwch ei gyrchu yma.

Fersiynau amgen

Os nad oes gennych cyswllt i’r we;

Ffoniwch neu tecstiwch ni ar 07787 578386; neu E-bostiwch ni ar EinPumEgwyddor@tangogleddcymru.llyw.cymru gallwn anfon copi papur o’r holiadur, a gallwch ei anfon yn ôl am ddim.

Mae fersiwn hawdd ei ddarllen ar gael ar ein gwefan – sydd â gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg ac yn cynnig bar offer cynorthwyol hawdd ei ddefnyddio, gan gynnwys swyddogaeth darllen yn uchel, testun mwy a’r gallu i weld y wybodaeth mewn ystod eang o ieithoedd ychwanegol.

Rydym yn croesawu eich sylwadau neu awgrymiadau. Mae ein hymgynghoriad yn rhedeg o 25ain Mawrth 2024 hyd at 16eg Mehefin 2024.

Fel arall, gallwch roi eich adborth, drwy gysylltu â ni drwy ein gwefan www.tangogleddcymru.llyw.cymru, ein ffonio ni ar 01745 535250 neu ysgrifennu atom yn;

Pencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub
Ffordd Salesbury
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL 17 0JJ

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd adroddiad sy’n cynnwys yr holl adborth a dderbynnir yn cael ei gyflwyno i aelodau Awdurdod Tân
ac Achub Gogledd Cymru i’w ystyried yn y cyfarfod a drefnwyd ar 15fed Gorffennaf 2024.

Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn cael ei ystyried ac, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Awdurdod Tân ac Achub, bydd Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024-2029 yn dod i rym ar
unwaith ac yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen