Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Cadetiaid Tân Cenedlaethol

Mae’r Cadetiaid Tân Cenedlaethol yn sefydliad ieuenctid sy’n cael ei redeg gan y Gwasanaethau Tân ac Achub mewn partneriaeth â Chyngor Cenedlaethol Y Prif Swyddogion Tân.

Nod y cynllun yw creu cymunedau mwy diogel a chadarn trwy ddatblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl ifanc ynglŷn â’u cymunedau er mwyn iddynt ddod yn ddinasyddion gwell. 

 

Mae’r fenter yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 12 ac 16 ennill Lefel 1 i 3 yn y pwnc y Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymuned neu dystysgrifau galwedigaethol mewn sawl maes. 

Mae’r bobl ifanc yn cael dysgu sgiliau amrywiol megis gwaith tîm, datrys problemau a chyfathrebu ochr yn ochr â sgiliau achub bywyd ehangach er mwyn gwella eu rhagolygon o ran cyflogaeth.

Mae 4 uned yng Ngogledd Cymru, sef:

  • Amlwch
  • Porthaethwy
  • Y Waun
  • Y Bala

Maent yn cwrdd unwaith yr wythnos yn eu gorsaf dân leol – mae’r nosweithiau cyfarfod fel a ganlyn:

Amlwch – Nos Fawrth

Porthaethwy  - Nos Fercher

Y Waun – Nos Lun

Y Bala - Nos Fawrth

 

Am fwy o wybodaeth ebostiwch pam.roberts@tangogleddcymru.llyw.cymru

Os hoffech ragor o wybodaeth am y Cadetiaid, cliciwch yma: https://www.ukfirecadets.org.uk/fire-cadets-homefireservice.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen