Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gyrru'n ddiogel yn y gaeaf

Gyrru'n ddiogel yn y gaeaf

GYRRU’N DDIOGEL YN Y GAEAF

Peidiwch â disgwyl i'r tywydd gaeafol gyrraedd. Mae’r tywydd yn gallu bod yn annarogan - gall y tywydd droi pan na fyddwn yn ei ddisgwyl a gall fod yn hynod o beryglus os ydych chi allan ar y ffordd.

Byddwch yn barod a gwnewch yn siŵr bod eich cerbyd yn barod ar gyfer y gaeaf drwy ddilyn ein rhestr wirio isod. Cariwch becyn argyfwng gyda chi bob amser. Mae eitemau a awgrymir ar gyfer y pecyn hefyd wedi eu rhestru isod.

Os nad yw eich siwrnai yn HANFODOL, y ffordd orau o aros yn ddiogel mewn tywydd drwg yw cadw ODDI AR Y FFYRDD.

 

Yw eich cerbyd yn barod am y gaeaf?

Bydd gwasanaethu rheolaidd a sicrhau bod eich cerbyd mewn cyflwr da cyn i chi gychwyn yn lleihau’r posibilrwydd ohonoch yn torri i lawr ar y ffordd.

 

Mae’n werth gwirio’r pethau hyn yn rheolaidd – yn enwedig cyn siwrnai hir yn y gaeaf:

 

  • Yw’r batri yn llawn? Gosodwch un newydd os nad yw’n gwbl ddibynadwy.
  • Yw eich goleuadau’n lân ac yn gweithio. Cariwch fylbiau sbâr.
  • Newidiwch lafnau eich sychwyr ffenestri os ydynt wedi gwisgo
  • Gwiriwch eich lefelau hylif, hylif golchi ffenestr flaen y car, olew, gwrthrewydd ac ati.
  • Defnyddiwch hylif golchi ffenestr flaen cryf rhag iddo rewi
  • Gwnewch yn siŵr bod pob ffenestr yn lân
  • Gwnewch yn siŵr bod digon o wynt yn eich teiars a phrynwch rhai newydd cyn eu bod yn anghyfreithlon. Gwiriwch y gwynt sydd yn eich teiars (cyfeiriwch at lawlyfr y gwneuthurwr) a dyfnder y teiars (o leiaf 1.6mm)
  • Ewch â'ch car i garej gyfrifol i'w wasanaethu cyn y gaeaf er mwyn cael tawelwch meddwl ychwanegol.

 

Gwnewch yn siŵr bod eich pecyn argyfwng yn gyflawn

Casglwch yr eitemau at ei gilydd a rhowch nhw yng nghefn y car ar ddechrau tymor y gaeaf. Does wybod pryd y bydd eu hangen arnoch.

 

Fe ddylai eich pecyn argyfwng gynnwys:

 

  • Crafwr, dadrewydd a chadachau sych
  • Torsh a batris sbâr – neu dorsh weindio
  • Dillad cynnes neu flancedi – i chi a’ch teithwyr
  • Esgidiau sy’n dal dŵr
  • Pecyn Cymorth Cyntaf
  • Gwifrau cyswllt
  • Rhaw
  • Darn o hen garped Gall gwasarn cath (cat litter) hefyd fod yn ddefnyddiol ac yn gyfleus i’w gario
  • Atlas Ffordd
  • Sbectol Haul (gall yr haul ar yr eira eich dallu)
  • Côt lliw llachar
  • Triongl Rhybudd

 

 

CYN CYCHWYN

 

Byddem yn eich cynghori i beidio â theithio os allwch osgoi hynny. Fodd bynnag, os na allwch osgoi teithio, dyma ychydig o bethau y dylech eu gwneud cyn cychwyn ar eich siwrnai mewn tywydd garw.

 

  • Gwiriwch eich pecyn argyfwng
  • Gwiriwch eich teiars
  • Gwiriwch eich goleuadau a’ch sychwyr ffenestr
  • Glanhau eich ffenestr flaen, ffenestri a drychau
  • Cliriwch unrhyw eira oddi ar do’r cerbyd cyn gyrru i ffwrdd.
  • Cliriwch unrhyw eira oddi ar yr holl ffenestri, goleuadau a rhifau adnabod.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu gweld yn clir a bod eraill yn gallu eich gweld chi.
  • Gwnewch yn siŵr bod batri eich ffôn yn llawn – ond peidiwch â’i ddefnyddio wrth yrru.
  • Ewch ag ychydig o fwyd a diod cynnes gyda chi mewn fflasg rhag ofn y byddwch yn mynd yn sownd. Peidiwch ag anghofio mynd â meddyginiaeth bersonol gyda chi!

Gyrru trwy’r rhew a’r eira

Os oes rhaid i chi fynd allan ar y ffyrdd mewn tywydd garw:

Cyn cychwyn, gofalwch eich bod yn clirio’r rhew oddi ar yr holl ffenestri a’u bod yn glir y tu mewn a’r tu allan.  Peidiwch â dim ond clirio twll i edrych drwyddo.
Gyrrwch yn arafach os yw’n anodd gweld a’r amodau gyrru’n wael.  Mae’n well gyrru’n araf ac yn bwyllog er mwyn osgoi gorfod brecio’n sydyn.
Gyrrwch yn y gêr uchaf, heb gynyddu eich cyflymder, er mwyn rhwystro’r olwynion rhag troelli.
Wrth symud i ffwrdd, dewiswch yr ail gêr gan dynnu eich troed oddi ar y clytsh yn araf er mwyn rhwystro’r olwynion rhag troelli.
Breciwch yn araf rhag i’r olwynion gloi. Ewch i gêr isel yn gynt na’r arfer a gadewch i gyflymder y cerbyd ostwng yn raddol.
Cadwch fwlch o o leiaf 10 eiliad rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen.  Bydd angen 10 gwaith yn fwy o le i stopio ar ffordd sydd wedi rhewi nag ar ffordd sych.
Defnyddiwch y goleuadau blaen os na allwch weld yn glir – er enghraifft yn gynnar yn y bore, wrth iddi ddechrau nosi, os yw’n bwrw neu’n gymylog a thywyll.
Peidiwch â dallu gyrwyr eraill gyda’ch prif oleuadau
Wrth yrru i lawr allt, dewiswch yr ail neu’r trydydd gêr er mwyn osgoi sglefrio.
Ewch rownd corneli’n araf a throwch y llyw yn araf ac yn bwyllog er mwyn osgoi sglefrio.
Peidiwch byth a brecio os bydd y cerbyd yn sglefrio – tynnwch eich troed yn araf oddi ar y sbardun a throwch y llyw ychydig i’r cyfeiriad y mae’r car yn sglefrio hyd nes y teimlwch eich bod wedi cael y cerbyd dan reolaeth eto.
Os ydych yn mynd yn sownd mewn eira, sythwch y llyw a chliriwch yr eira oddi ar yr olwynion er mwyn helpu’r teiars i gael gafael yn y ddaear.  Unwaith y byddwch yn symud eto,  os yn bosibl peidiwch â stopio hyd nes y byddwch wedi cyrraedd tir mwy cadarn.
Os bydd eich cerbyd yn torri i lawr, tynnwch oddi ar y ffordd cyn belled ag y gallwch a rhowch y goleuadau rhybudd ymlaen.
 

Rhybudd

Cadwch lygad am gerbydau taenu halen neu gerbydau clirio eira ar y ffyrdd.
Cadwch bellter diogel rhyngoch a cherbydau taenu halen - bydd goleuadau oren yn fflachio ar y cerbydau hyn ac maent yn teithio ar gyflymderau is - tua  40mya.
Peidiwch â phasio cerbydau eraill oni bai eich bod yn gwybod ei bod yn ddiogel i wneud hynny - mae’n bosibl y bydd eira heb ei glirio ar y ffordd o’ch blaen.

Caiff rhybuddion tywydd eu darlledu ar sianelau teledu a radio lleol, gallwch hefyd fynd i wefan Heddlu Gogledd Cymru i weld y newyddion diweddaraf am ffyrdd sydd wedi cau.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen