Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Byddwch yn Ddiogel y Nadolig hwn - Byddwch yn ofalus!

Postiwyd

Gyda goleuadau’r Nadolig yn cael eu rhoi ymlaen ledled y rhanbarth a llawer o bobl yn bwriadu rhoi eu haddurniadau Nadolig i fyny'r wythnos hon, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog trigolion i ddilyn rhai canllawiau syml i aros yn ddiogel dros yr ŵyl.

                                                                        

Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Rwy’n gwybod y bydd trigolion ledled y rhanbarth yn paratoi eu harddangosfeydd ac rwy’n gofyn iddynt wneud hynny’n ddiogel, trwy beidio â gorlwytho socedi a defnyddio ceblau diogelwch pwrpasol gyda’r ffiws cywir.

 

“Bydd gan lawer o bobl amrywiaeth o ddyfeisiau trydanol ar eu rhestri Nadolig eleni - byddwch yn ymwybodol o orlwytho, peidiwch â gwefru eitemau dros nos a defnyddiwch wefrwyr o ffynhonnell ddibynadwy yn hytrach na rhai rhad ôl-farchnad.

 

“Mae’r cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn amser i fwynhau bod gyda theulu a ffrindiau, ond mae angen bod yn fwy gofalus nag arfer i osgoi tân a allai ddinistrio’r cartref, gan arwain at golli anrhegion Nadolig a phethau gwerthfawr, a hyd yn oed yn waeth, achosi anaf difrifol neu fygwth eich bywyd chi a’ch anwyliaid.”

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i aros yn ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân trwy ddilyn y deuddeg awgrym canlynol er mwyn cadw’n ddiogel dros yr ŵyl:

 

  1. 1. Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau Nadolig yn cydymffurfio â Safonau Prydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (dyfais ddiogelwch sy’n medru achub bywydau trwy ddiffodd y pŵer ar unwaith).
  2. Peidiwch byth â rhoi canhwyllau yn agos at eich coeden Nadolig neu ddodrefn. Peidiwch â’u gadael yn llosgi pan nad ydych yn yr ystafell.
  3. Gwnewch yn siŵr bod eich teulu ac ymwelwyr sy’n aros dros y Nadolig yn gwybod beth i’w wneud os oes argyfwng. Lluniwch gynllun dianc a’i ymarfer.
  4. Gall addurniadau losgi’n hawdd. Peidiwch â’u dodi ynghlwm wrth oleuadau neu wresogyddion.
  5. Diffoddwch offer trydanol pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, os nad yw wedi ei ddylunio i gael ei adael ymlaen.
  6. Cymerwch ofal arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch a thynnwch y plwg cyn i chi fynd i’r gwely. Mae Nadolig yn amser pan fyddwn yn defnyddio mwy o eitemau trydanol megis goleuadau ac addurniadau ynghyd â gemau ac ati - peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau ond defnyddiwch geblau diogelwch gyda’r ffiwsys cywir. Edrychwch ar y gyfrifiannell ampau yn www.gwastan-gogcymru.org.uk /eich neu dilynwch y ddolen hon /looking-after-the-electrics.aspx?lang=cy
  7. Mae’r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin - peidiwch â gadael bwyd yn coginio. Dathlwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae perygl damweiniau, yn enwedig yn y gegin, yn uwch ar ôl yfed alcohol.
  8. Os ydych yn bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch nhw mewn blwch metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt ar ôl eu tanio a chadwch fwced o ddŵr yn agos.
  9. Gwnewch yn siŵr bod sigaréts wedi eu diffodd yn iawn.
  10. Gwiriwch y batri yn eich larwm mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig i’ch atgoffa i’w lanhau a chael gwared â llwch.
  11. Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis o gyrraedd plant.
  12. Cymerwch yr amser i wneud yn siŵr bod perthnasau a chymdogion yn iawn y Nadolig hwn - sicrhewch eu bod yn ddiogel o safbwynt tân ynghyd â bod yn iach.

 

Ychwanegodd Justin: “Mae pawb yn hoffi mwynhau eu hunain dros yr ŵyl, ond rydym yn gofyn iddynt feddwl am ddiogelwch wrth ddathlu. Hoffwn hefyd awgrymu trigolion ynglŷn â pheryglon coginio ar ôl yfed alcohol - ‘dyw coginio ac yfed ddim yn cymysgu o gwbl.

 

"Mae angen i ni i gyd ystyried canlyniadau posibl ein gweithredoedd a meddwl am ddiogelwch er mwyn aros yn ddiogel.

 

“Hoffwn hefyd ofyn i bawb ystyried teulu neu gymdogion a all fod yn agored i niwed, a sicrhau bod eu cartrefi hwythau’n ddiogel hefyd. Mae’r rhybudd cynnar a roddir gan larwm mwg yn rhoi munudau hanfodol i helpu pobl i ddianc yn ddianaf.”

 

Ewch i’n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth diogelwch 12 diwrnod y Nadolig a chael cyfle i ennill hamper siocled. www.facebook.com/northwalesfire

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen