Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn eiddo ym Methesda

Postiwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi cael eu galw at dân ym Methesda

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw at dân mewn cyfeiriad yn Erw Las, Ffordd Coetmor am 10.40 o’r goch y bore yma (Dydd Mawrth 5ed Mehefin).

Anfonwyd dwy injan o Fangor a Llanberis at y digwyddiad, a defnyddiwyd pedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddelio gyda’r tân a oedd wedi ei gyfyngu i’r llawr daear yn bennaf.  

Achubwyd dyn yn ei 50au o’r eiddo gan ddiffoddwyr tân. Cafodd ei drin yn y fan a’r lle ac yna’i gludo i’r ysbyty gan yr ambiwlans awyr. Credir ei fod mewn cyflwr difrifol.

Meddai Gavin Roberts o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Bydd ymchwiliad ar y cyd yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.  

“Fe ymatebodd y criwiau’n gyflym i daclo’r tân ac fe weithiodd y gwasanaethau brys yn dda gyda’i gilydd i drin y claf a rheoli’r digwyddiad.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen