Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i drechu tanau bwriadol

Postiwyd

Mae Tîm Lleihau Tanau Bwriadol Gogledd Cymru yn apelio i drigolion i’w helpu i drechu tanau bwriadol wrth i wyliau’r haf ddechrau’r wythnos hon.

Meddai Tim Owen, Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol: “Yn ystod y gwyliau, mae pobl ifanc yn aml allan yn hwyrach gyda’r nos yn ystod y tywydd cynnes. Yn ystod yr amser hwn, rydym yn aml yn gweld cynnydd yn y nifer o danau sydd wedi eu cynnau’n fwriadol. Rydym yn apelio i’r gymuned i’n helpu i drechu tanau bwriadol.

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i apelio i rieni i fod yn ymwybodol o ble mae eu plant a phwysleisio iddyn nhw y neges bod tanau bwriadol yn medru peryglu bywydau.

“Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau anferth ar adnoddau, gyda’n criwiau yn gorfod treulio gryn amser yn eu cael dan reolaeth, sy’n eu rhwystro rhag mynd i argyfyngau gwirioneddol.

“Cofiwch – mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd, ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i drechu digwyddiadau bwriadol.

“Cynghorir unrhyw un gyda gwybodaeth am droseddau o’r fath i gysylltu’n ddienw â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen