Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am wresogyddion trydan yn dilyn tân yn yr Wyddgrug

Postiwyd

Roedd tri o bobl yn ffodus iawn bod tân yn eu cartref yn yr Wyddgrug wedi cael ei ddarganfod yn ddigon cynnar, gyda diolch i’w larwm mwg.

Cafodd dwy ddynes a geneth 12 oed eu rhybuddio am y tân wedi i wresogydd trydan cludadwy droi drosodd.   

Derbyniodd dynes 37 oed driniaeth am effeithiau anadlu mwg yn y fan a’r lle wedi i’r digwyddiad achosi pwl o asthma.

Anfonwyd dau griw o Fwcle a’r Wyddgrug i’r eiddo ar Milford Street am 19.12 o’r gloch neithiwr (Nos Lun 21ain Ionawr) –  fe achosodd y tân ddifrod mwg i’r gegin a chafodd y gwresogydd ei ddinistrio’n llwyr gan y tân.

Meddai Justin Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “ Heb rybudd cynnar gan y larwm mwg, fe allai’r digwyddiad hwn fod wedi bod yn un llawer iawn mwy difrifol.

“Ar yr adeg yma o’r flwyddyn mae pobl yn defnyddio gwresogyddion cludadwy i gadw’n gynnes, mae’n bwysig cymryd pwyll a sicrhau eu bod wedi cael eu gosod ar lawr gwastad ymhell o unrhyw beth a all fynd ar dân – mae angen tynnu plygiau unrhyw gyfarpar trydanol sydd ddim yn cael eu defnyddio.

“Os bydd tân, mae’n rhaid i chi allu mynd allan o’r eiddo, felly gwnewch yn siŵr bod eich llwybr dianc yn glir o rwystrau fel y gallwch fynd allan cyn gyflymed â phosibl – peidiwch â gadael eitemau o gwmpas y lle a all eich atal rhag mynd allan.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen